Mae'r cwcis hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer weithrediad y wefan.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i fesur sut ydych yn defnyddio'r wefan er mwyn i ni ei wella yn seiliedig ar angen defnyddwyr.
Gall y cwcis hyn gael eu gosod gan wefannau trydydd parti a gwneud pethau fel mesur sut rydych yn gwylio fideos YouTube.
Amgueddfa Cymru
Darlun o rosyn gwyn gan yr artist 'E. Johns' gyda cherdyn wedi ei ysgrifennu a llaw ar y cefn 'Maralyn Minett Age 10'. Rhoddod yr artist y darlun i Cliff ac Iris Minett o Aberfan er cof am eu merch, Marylynl. Roedd Marylyn yn ddeng mlwydd oed pan laddwyd yn ei ystafell ddosbarth yn Ysgol Gynradd Pantglas, Aberfan ar 21 Hydref 1966. Lladdwyd Carl, ei brawd bach hefyd. Am 9:13 y bore Gwener hwnnw, disgynnodd miloedd o dunelli o wastraff glo ar Ysgol Gynradd Pantglas a rhannau eraill o'r pentref gan ladd 116 o blant a 28 oedolyn. Wedi'r drychineb, cyflwynodd yr artist, E. Johns ddarlun o rosyn i deuluoedd yr ymadawedig fel symbol o gariad ac er cof am eu hanwyliaid.