Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Answer book
Llyfr Ateb Amgueddfa Werin Cymru, 1980, oddi wrth Mr a Mrs William Davies, Caerdydd, yn cynnwys geiriau tafodieithol o ardal Penegoes a Darowen.
Anfonwyd Llyfrau Ateb gan Amgueddfa Werin Cymru at unigolion ar draws Cymru er mwyn casglu a chofnodi gwybodaeth am agweddau o ddiwylliant gwerin yn eu hardaloedd yn cynnwys amaeth, crefftau, bwyd, arferion a thafodiaith. Mae’r ymatebion wedi eu hysgrifennu â llaw yn y llyfrau. Roedd y Llyfrau Ateb yn ddilyniant i’r holiaduron a anfonwyd ym 1937.
Welsh Folk Museum Answer Book, 1980, received from Mr and Mrs William Davies, Cardiff, containing dilectology from the Penegoes and Darowen areas.
Answer Books were sent out by the Welsh Folk Museum to individuals across Wales as a way of collecting and documenting information on aspects of folk culture in their areas, including agriculture, crafts, food, customs and dialects. The responses were hand-written in the books. The Answer Books had a similar purpose to the earlier questionnaires sent out in 1937.