Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Adeiladau yn Napoli
Heidiodd artistiaid i’r Eidal o bob cwr o Ewrop yn y ddeunawfed ganrif. Roedd yn lle o ryfeddodau naturiol syfrdanol, ac yn lle i astudio hynafiaeth a chelfyddyd ragorol y Dadeni. Pan aeth yr artist Cymreig Thomas Jones yno ym 1776, roedd yr Eidal yn ganolbwynt i fudiad arloesol – y traddodiad braslunio tirluniau olew. Yn ystod ei dair blynedd yno, gwnaeth Jones gyfraniad nodedig a hynod o wreiddiol at y traddodiad hwn. Ar ddechrau ei ail arhosiad yn Napoli, o fis Mai 1780 tan fis Awst 1783, roedd gan Jones lety gyda theras ar y to mewn tŷ ger yr harbwr. O'r fan honno gwnaeth gyfres o astudiaethau olew gorffenedig iawn o adeiladau gerllaw, sy'n eithriadol o ffres ac uniongyrchol. Ymhell o'r palasau crand a'r golygfeydd Eidalaidd poblogaidd, canolbwyntiodd Thomas Jones ar destunau mwy di-nod - hen waliau, leiniau dillad, ffenestri. Nid dyma oedd testunau arferol artist o'r ddeunawfed ganrif. Peintiodd fraslun manwl o do ei dŷ yn Napoli. Mae'n edrych yn fodern iawn gyda'i liw glas llychlyd, tonau llwyd ariannaidd a thechnegau fframio anghyffredin.
Pwnc
Rhif yr Eitem
Creu/Cynhyrchu
Derbyniad
Mesuriadau
Techneg
Deunydd
Lleoliad
Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod gwaith yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.