Casgliadau Arlein
Amgueddfa Cymru
Chwilio Uwch
Recordiad sain / Audio recording: Phoebe Evans
Recordiad hanes llafar Cymraeg gyda Phoebe Evans, Meidrim. Fe'i ganwyd ym Mlaenwaun, plwyf Tre-lech a'r Betws, yn 1889. Pwrpas y recordiad: Gwaith y forwyn ers talwm. Rhan 2 o 6 (AV 2495/1, AV 2496/1, AV 2497/1, AV 2498/1, AV 2499/1, AV 2500/1). Welsh language oral history recording with Pheobe Evans, Meidrim.
Yr ail forwyn. Gwaith dydd Sadwrn - torri coed, llywanen i'w cario), ysgubo'r clos. Glanhau cyllyll a ffyrcs â bricen. Car llwyau pren. Llwydo bob ochr i'r tân â chlai gwlyb. Helpu gyda'r cynhaeaf gwair - troi gwair â phicwarch etc. a helpu ar ffermydd eraill yn ogystal. Cynhaeaf llafur - ei droi â chryman, rhwymo, cario nghyd i wneud deise. Dull arbennig o rwymo gwenith. Tendo toi yn yr ydlan - rhaff, toien, peg. Tynnu to o wenith. Swper fedel - ym mis Tachwedd. Lladd buwch > rhost, pwtsh a sweds. Plwm pwdin a sos. Gwahodd pawb a fu'n helpu + eu teuluoedd. Paratoi mawr ar gyfer y swper - gwyn galchu'r tai, glanhau, etc. Berwi'r plwm pwdin mewn padell bres. Glanhau'r rasins am nosweithiau ymlaen llaw. Gwaith y forwyn fawr - corddi. Corddi ag asynnod - bob dydd Iau. Crochon mowr i ddal yr hufen. Sapyretor - i wahanu'r llawth a'r hufen. Gwynto'r fudde. Yr hufen yn torri - dechrau troi'n fenyn. Codi'r menyn i'r giler - llestr pren. Gwerthu'r menyn - pownde ac mewn twbin. Menyn crochon. Clapo'r menyn. Llaeth enwyn - tato a ll. enwyn i ginio bob diwrnod corddi. Gweithwyr yn yfed 11 1/2 enwyn ar ôl suro. Bwyta tost a ll. enwyn. Gwisg arbennig ar gyfer corddi. Y gofal am y fudde, etc.