Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Burton, Wrecsam

Celc o’r Oes Efydd Ganol (1300-1150 CC) yn cynnwys deuddeng eitem o emwaith aur, dau balstaf efydd, cŷn efydd a dernyn o waelod llestr crochenwaith.

Ym mis Chwefror 2004, daeth tri defnyddiwr datgelyddion metel o hyd i 14 o eitemau aur, efydd a chrochenwaith mewn cae newydd ei aredig ar orlifdir afon Alun ger Burton, Wrecsam. Cafwyd hyd i dair ar ddeg o'r eitemau hyn mewn ardal o 1.5-2 fetr sgwâr, a darganfuwyd y bedwaredd ar ddeg 24m i ffwrdd Cafwyd hyd i'r holl eitemau 5-20cm o dan y ddaear. Ar ôl hynny, cloddiwyd pwll prawf archaeolegol bach gan archaeolegwyr amgueddfa, i weld a oedd yno ragor o eitemau ac i ganfod sut y claddwyd yr eitemau. Mae'n debygol i'r eitemau gael eu claddu gyda'i gilydd yn wreiddiol mewn llestr crochenwaith, ond dim ond ei waelod sydd wedi goroesi. Daethpwyd o hyd i ddwy eitem aur arall, glain a gwifren, wedyn gan yr un bobl â datgelyddion metel ym mis Awst 2007 ychydig fetrau o'r man darganfod cyntaf ac maent yn rhan o'r un celc.

Cyhoeddwyd bod yr arteffactau'n drysor yn 2004 a 2008 ac fe'u prynwyd yn ddiweddarach ar gyfer y casgliad cenedlaethol, gyda chymorth grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, The Art Fund a The Worshipful Company of Goldsmiths.