Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Llanwrthwl

Celc Llanwrthwl, Powys

Celc o’r Oes Efydd Ganol (1300-1150 CC) yn cynnwys pedair torch aur, wedi’u torchi i’w defnyddio fel breichdlysau. Mae pwysau’r torchau’n amrywio o 40.4g i 214.1g ac maent ar sawl ffurf, yn cynnwys torch â chantelau tro, dwy dorch bar tro a thorch bar plaen.

Canfuwyd y celc tua 21 Chwefror 1954 mewn cae dan borfa o’r enw Banc Cae Gwyllt oedd yn perthyn i Fferm Talwrn. Roedd dau o weithwyr y fferm yn casglu cerrig yn y cae cyn aredig pan ddaethant ar draws maen unionsyth mawr ar ei ochr yn pwyso tua 100kg. Roedd tomen o gerrig bach oddi tano. Roedd dwy dorch o dan un o’r cerrig hyn. O dan y rheiny roedd carreg arall a gwelwyd bod pâr arall o dorchau o dan honno. Gan eu bod wedi’u claddu fel hyn, gwyddom fod y torchau wedi’u gosod a’u marcio’n ofalus.

Mae i’r torchau hyn le arbennig yn natblygiad y casgliad cenedlaethol yn Amgueddfa Cymru. Pan brynwyd y torchau yn 1954, dyna oedd y tro cyntaf i’r amgueddfa genedlaethol gael y cynnig cyntaf ar Hapdrysor a ddarganfuwyd yng Nghymru.