Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Celc Llanfihangel-ar-Elái, Caerdydd

Ym mis Mawrth 1987, darganfuwyd celc bach yn cynnwys bwyell soced asennog o efydd, breichled aur anghyflawn a dernyn o stribed aur, wrth chwilio â datgelydd metel. Mae'r celc bach hwn yn dyddio o'r Oes Efydd Ddiweddar (1000-800 CC).  Gwnaed y darganfyddiad mewn cae o dan borfa, o dan hen fanc, ar ddyfnder o ychydig dros 50cm.  Cynhaliwyd ymchwiliad archaeolegol yn y man darganfod, ond ni lwyddwyd i ddarganfod dim arall am y dull claddu.

Darganfuwyd y freichled aur a'r dernyn o stribed wedi'u gosod yn ofalus yn soced y fwyell efydd.  Roedd y freichled wedi'i phlygu drosodd dair gwaith, i ffitio i'r soced.  Gwnaed y freichled trwy forthwylio eurddalen ac ar un adeg roedd ganddi derfynellau â’u pennau wedi'u torchi; math o freichled rhuban sy'n nodweddiadol o dde Prydain.  Daethpwyd o hyd i freichledau aur wedi'u gosod yn ofalus mewn bwyeill socedog efydd ar dri achlysur yng Nghymru. Y ddau arall oedd celc Cymuned yr Orsedd, Wrecsam a celc Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych.

Cyhoeddwyd bod y ddwy eitem aur yn drysor mewn Cwest Hapdrysor a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ym mis Mai 1987 ac yna fe'u prynwyd ar gyfer y casgliad cenedlaethol. Sicrhawyd y fwyell socedog efydd trwy bryniant preifat.