Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Middle Bronze Age gold bracelet

Dyma freichled aur gyflawn wedi’i gwneud o chwe gwifren aur dro wedi’u gosod ochr yn ochr ac wedi'u sodro yma a thraw wrth wifrau gerllaw. Gyda’i gilydd, mae’r gwifrau hyn yn gwneud bandyn cul a dorchwyd yn dynn yn ddwy droell gonsentrig â ‘chynffon’ yn estyn allan, i ffitio y tu mewn i lestr crochenwaith gyda phethau eraill cysylltiedig, a’u claddu. Ar bob pen mae terfynell aur onglog, pen fflat, yn dal pennau’r gwifrau aur. Yn wreiddiol, byddai’n freichled tua 4.8-6.0cm o ddiamedr, ac mae’n debygol y byddai bwlch rhwng y ddau ben.

Breichled weiren aur wedi'i throelli, 1300-1150 CC. Roedd Cymru wrth wraidd traddodiad aur Ewrop yr Iwerydd yn ystod Canol Oes yr Efydd. Roedd y freichled yma yn rhan o gelc Burton, a guddiwyd mewn llestr crochenwaith ar lan afon Alun. Mae wedi’i gwneud o chwe gwifren aur wedi’u troelli.

Project Title: Gold in Britain’s auriferous regions, 2450-800 BC: towards a coherent Research Framework and Strategy. Status: Arts & Humanities Research Council (AHRC) Network Grant funded project (2018-2019)

WA_SC 18.1

Pwnc

Archeoleg a Nwmismateg

Rhif yr Eitem

2005.68H/2

Gwybodaeth am y darganfyddiad

Enw'r Safle: Burton, Wrexham

Dull Casglu: metal detector

Nodiadau: Hoard. A hoard of fourteen gold, bronze and ceramic objects were found while metal-detecting in January 2004 in a recently ploughed field in the flood plain of the River Alun at Burton, near Wrexham. Thirteen of these objects were found within a 1.5-2m square area, while a fourteenth was found 24m away. All objects were found 5-20cm below the ground. Subsequently a small archaeological test pit was excavated, which clarified the location of some of the objects. It is possible the objects were deposited within a small ceramic vessel, though only a sherd of this still survives. Two further gold objects were found while metal-detecting in August 2007 a few metres from the hoard findspot and were deemed to also be part of this hoard.

Derbyniad

Treasure (1996 Treasure Act), 14/10/2005

Mesuriadau

(): weight / g:11.13
(): length / mm:48.7 (coiled)
(): height / mm:25.8 (coiled)
(): width / mm:6.7

Deunydd

gold

Lleoliad

St Fagans Wales Is gallery : Gold

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.