Aur o Gymru’r Oes Efydd

Aur o Gymru'r Oes Efydd

Middle Bronze Age gold bead

Dyma glain siâp deugonig a ffurfiwyd o stribed tenau o eurddalen, a blygwyd i greu gwrym yn y canol ac yna'i grymu’n siâp glain. Cafodd y pennau eu morthwylio a’u weldio’n oer at ei gilydd i greu silindr gwag. Mae twll neu agoriad siâp hirgrwn bras yn y naill ben a’r llall fel y gellid rhoi llinyn trwy’r glain. Mae tolc bychan ar un ochr a rhan o un o’r agoriadau ac mae wal y glain wedi rhwygo ychydig.

Glain aur deugonig, 1300-1150 CC. Roedd Cymru wrth wraidd traddodiad aur Ewrop yr Iwerydd yn ystod Canol Oes yr Efydd. Roedd y glain aur deugonig hwn yn rhan o gelc Burton, a gladdwyd ar lannau afon Alun.

Project Title: Gold in Britain’s auriferous regions, 2450-800 BC: towards a coherent Research Framework and Strategy. Status: Arts & Humanities Research Council (AHRC) Network Grant funded project (2018-2019)

WA_SC 18.1

Pwnc

Archeoleg a Nwmismateg

Rhif yr Eitem

2005.68H/5

Gwybodaeth am y darganfyddiad

Enw'r Safle: Burton, Wrexham

Dull Casglu: metal detector

Nodiadau: Hoard. A hoard of fourteen gold, bronze and ceramic objects were found while metal-detecting in January 2004 in a recently ploughed field in the flood plain of the River Alun at Burton, near Wrexham. Thirteen of these objects were found within a 1.5-2m square area, while a fourteenth was found 24m away. All objects were found 5-20cm below the ground. Subsequently a small archaeological test pit was excavated, which clarified the location of some of the objects. It is possible the objects were deposited within a small ceramic vessel, though only a sherd of this still survives. Two further gold objects were found while metal-detecting in August 2007 a few metres from the hoard findspot and were deemed to also be part of this hoard.

Derbyniad

Treasure (1996 Treasure Act), 14/10/2005

Mesuriadau

(): weight / g:0.60
(): diameter / mm:10.3
(): thickness / mm:8.0

Deunydd

gold

Lleoliad

St Fagans Wales Is gallery : Gold

Caiff Casgliadau Arlein ei ddiweddaru yn rheolaidd, ond gwnewch yn si’r bod eitem yn dal i gael ei arddangos cyn ymweld yn arbennig.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.