Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher

E. Thomas Evans.

E. Thomas Evans.

Dydd Llun, dydd mawrth, dydd mercher,
Mi a'u treuliais hwy oll yn ofer,
Ond nis gwyddwn fy mod ar fai,
Ond nis gwyddwn fy mod ar fai,
Nes daeth dydd Iau, dydd Gwener,
Nes daeth dydd Iau, dydd Gwener.

O'r hem glos â'r melfed gwyrdd,
O'r hem glos â'r melfed gwyrdd,
Lle buest ti (y)nghwrdd â'r cloddiau?
Lle buest ti (y)nghwrdd â'r cloddiau?
Minga monga gwyddwn fy mod,
Minga monga gwyddwn fy mod,
Fel gŵr yn gyrru gwyddau,
Fel gŵr yn gyrru gwyddau.

Gwrando

Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Mercher

Tâp AWC 526. Recordiwyd 27.6.1963 gan E. Thomas Evans (ffermwr, g. 1883), Foel Garthbeibio, Sir Drefaldwyn. Pan nad oedd ond tua 12 oed dysgodd ETE y gân hon oddi wrth hen was fferm yng Ngarthbeibio.

Nodiadau

Ymson meddwyn sydd yma. Bu'r pennill cyntaf yn boblogaidd drwy Gymru ers degau o flynyddoedd eithr hyd y gwyddys ni chyhoeddwyd o'r blaen y gweddill a gynhwysir uchod. Y mae'r cysylltiad ag yfed yn amlwg hefyd yn y fersiwn a ganai Robert Roberts, Tai'r felin, y Bala, gynt – gw. o dan yr enw 'Can Sobri' yn Caneuon Bob Tai'r Felin, gol. Haydn Morris (1959). Am ddefnyddiau cymariaethol gw. CCAGC, Cyfrolau i (o dan yr enw 'Yr Eira'), ii a iv.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)