Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Sguthan

Land Rover yr Archif Sain.

Land Rover yr Archif Sain.

Mi adroddaf ichwi bwt o stori.
Mi driaf fynd yn drwstan trosti,
Ond chwaith ni ddwedaf ond y gwir,
Y gwir a saif, dim ond y gwir.

Am ddau lane ifanc o'r plwy yma
Ryw noson aethant ffwrdd i hela;
Aeth un â'i wn a'r Hall â'i gi,
Gael bod yn siwr o ddal y pry.

Fe godofjd un i fyny ei ben,
Fe welodd sguthan ar y pren:
"Wei, cydia di yng ngwar y ci
Rhag ofn (i)ddo fynd o fy ngafael i".

Wei, siarjo'r gwn wnaeth ar ô1 hynny
A bacio'n ô1 gael lie i 'nelu,
A'r Hall yn crynu wrth fon y pren
Rhag ofn i'r slots fynd oddeutu ei ben.

Pan aeth yr ergyd gyntaf allan
Mi oedd 'na dwrw megis taran,
A rhedeg wnaent i'r lie a'r fan
Rhag ofn i'r ci gael mwy na'i ran.

Pan adawsant gynta geg y ci,
Wei, adref aethant hwy a hi,
A gofyn wnaent i wraig y tŷ
A wnai ei chwcio am ei phlu.

A gwraig y tŷ, pan aeth i bluo,
Fe glywai rywbeth yn ogl'uo,
A gofyn wnaeth i deulu'r tŷ
A glywent hwy ryw oglau cry.

'NôI i wraig y tŷ gael gwybod y cyfan,
Mai wedi trigo'r oedd y sguthan
Ac wedi syrthio i fforch y pren,
Nis gallai lai na chodi ei phen.

'Roedd wedi mynd yn ô1 ei phris,
'Roedd wedi trigo ers pedwar mis,
A'r llanciau gadd eu siomi'n siŵr,
A'u swper hwy oedd brŵes ddŵr.

Gwrando

Y Sguthan

Tâp AWC 536. Recordiwyd yn ddeulais 1.7.63 gan Joseph Lloyd (gyrrwr lori, g. 1896), Pant–y–wern, a Charadog Puw (ffermwr, g. 1922), Foel Garthbeibio, sir Drefaldwyn. Cododd JL y gân pan oedd tua 14 oed, o glywed ei chanu gan Ellis Gittins, Llanwddyn, a chlywodd CP yr un gŵr yn ei chyflwyno yn ddiweddarach.

Nodiadau

Cyhoeddwyd yr un alaw – eto'n deillio yn y pen draw o ganu Ellis Gittins – gan Mrs. Enid Parry yn CCAGC, iv, 57. Recordiwyd y gân yn ddeulais gan yr Amgueddfa ac ychwanegwyd yma gerddoriaeth llais Bas, gan fod canu 'Y Sguthan' yn dri llais hefyd yn arfer yn sir Drefaldwyn. Ni wyddys pwy biau'r geiriau.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)