Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Bwmba

John Thomas.

John Thomas.

Pan oeddwn i gynt yn fachgen,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Heb feddwl gwaeth nag amgen,
Fe rois fy mryd ar ferched glân
Er mwyn hala'r byd yn llawen.
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei. beio,
Fe rois fy mryd ar ferched glân
Er mwyn hala'r byd yn llawen.

O'r diwedd mi briodes,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
A'r lana' ferch a weles;
Fe fuse'n well imi, wir ddyn byw,
Briodi â Gwyddeles!

Ni fedre weu na gwinio,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Na golchi'n Ian na smwddo,
Na chwiro patshyn ar fy mritsh,
Fe haedde'r bitsh ei chico!

Ni fedre dderwyn dafe',
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Na medru cwiro sane,
Ond un peth fedre (h)i'n eitha' da,
Sef gweitho twmplins fale.

Fe gane wrth fynd i'r gwely,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Fe lefe beth wrth godi;
Eistedde lawr yn ochor (y) tân,
Fuse awr ddim byd iddi grafu

A phan ddawe amser brecwast,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Yn byta fydde'r hen folgast:
Yr wye a'r pancocs bobo'n ail –
A finne a 'masned sopas!

Rhyw fore penderfynes,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
I siarad â'r hen lodes:
Os na fuse'n altro'r drefen hon.
Fuse raid iddi gal y gwes.

Ond, "Thank you, Miss", daeth Ange,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Ymaflodd yn ei sodle;
Fe ath â'r bitsh i mas o'r byd –
Y very thing oedd eisie!

Cyn bo hir dechreues garu,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
 merch 'rhen Dwm Sion Cati;
'Roedd hon yn debyg iawn i'r llall –
Ac felly fe gas lony'.

Priodi wnes i wedyn,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Â'r hen Siân fwyn o'r Felin;
Yr oen ni'n byw, mae'n eitha gwir,
Mor hapus â dou dderyn!

Holl fechgyn teidi'r cwmni,
Bwmba bwmba bwmba dwdl ei,
Cymerwch gyngor gen–i:
Gofalwch fod yn ben ar y wraig
Ar ô1 i chwi briodi.

Gwrando

Bwmba

Tâp AWC 609. Recordiwyd 10.8.63 gan John Thomas (peiriannydd, g. 1912), Abercastell, ger Mathri, sir Benfro. Dysgodd JT y gân pan oedd tuag 8–9 oed, a hynny o glywed ei chanu mewn cyngherddau lleol gan ei ewyrth, Ben Phillips, sef 'Ben Bach' (1871–1958), y canwr gwerin enwog.

Nodiadau

Y mae'r agwedd gellweirus tuag at briodas a marwolaeth, fel y'i hamlygir yn yr wyth bennill cyntaf, yn brin yn y caneuon gwerin Cymraeg sydd wedi eu cyhoeddi. Sylwer hefyd fod bias tafodieithol yn gryf ar fynegiant 'Bwmba'. Cyhoeddwyd fersiynau o Benillion 1, 2, 3 ac 8 yn unig, ynghyd ag ymron yr un dôn, yn CCAGC, iv, 60 – yr oedd yr enghraifft honno wedi ei chasglu yng Nghwm Gwaun, sir Benfro. Yn CCAGC, ii, 194–5, ymddangosodd fersiynau o'r un pedwar pennill (eithr gyda cherddoriaeth wahanol) fel y'u cofnodwyd tua hanner canrif yn ô1 yn Llanwddyn, sir Drefaldwyn. 0 hepgor y cymalau disynnwyr fe welir mai ar fesur triban y mae geiriau'r gân, eithr yn y trydydd pennill yn unig y ceir yma yr odl fewnol yn y Ilinell olaf. (Yn y pennill agoriadol fe gollwyd odl drwy drawsosod cymalau'r 'drydedd' linell.)

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)