Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Llannerch–y–medd

T. Morris Owen.

T. Morris Owen.

Llannerch–y–medd y mondo,
Lle claddwyd Brenin Pabo;
A'r frenhines lân ei gwedd,
Yn Llannerch–medd mae honno.

Gwrando

Llannerch–y–medd

Tâp AWC 69. Recordiwyd 12.9.63 gan T. Morris Owen (swyddog gyda'r Weinyddiaeth Amddiffyn, g. 1887), Tyddewi, sir Benfro. Brodor o Fôn oedd TMO ac y mae'r gân hon yn un o amryw a glywodd gyntaf pan oedd, rhwng 4 a 6 oed, yn cael ei fagu ar aelwyd ei nain yn Llanfachreth, tua 7 milltir o Gaergybi.

Nodiadau

Triban sy'n dyrchafu pentref Llannerch–y–medd, yng ngogledd Môn, drwy gyfeirio ato fel man claddu'r Brenin Pabo a rhyw frenhines. Ni wyddys pa beth yw sail y traddodiad hwn am Babo, sy'n un o'r seintiau Celtaidd: yn eglwys Llanbabo, dair milltir o Lannerch–y–medd, y ceir yr arysgrif 'HIC JACET PABO POST PRIID ...' ('Yma y gorwedd Pabo cynheiliad Prydain ...'). Am fersiwn arall o'r triban, gw. S. Baring–Gould a J. Fisher, The Lives of the British Saints, iv (1913), 39. Fersiwn o 'Distyll y Don' yw'r dôn – cymh. CCAGC, ii, 191.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)