Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Cân y Fari Lwyd

Mari Lwyd yn Sain Ffagan.

Mari Lwyd yn Sain Ffagan.

Wel dyma ni'n dywad,
Gyfeillion diniwad,
I ofyn (o)s ciwan gannad,
I ofyn (o)s ciwan gannad,
I ofyn (o)s ciwan gannad
I ganu.

Os na chawn ni gannad,
R(h)owch glywad ar ganiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Pa fodd ma'r 'madawiad
Nos (h)eno.

Ni dorson ein crimpa
Wrth groeshi'r sticila
I ddyfod t(u)ag yma
I ddyfod t(u)ag yma
I ddyfod t(u)ag yma
Nos (h)eno.

Os o(e)s yna ddynion
All dorri anglynion,
R(h)owch glywad yn union
R(h)owch glywad yn union
R(h)owch glywad yn union
Nos (h)eno.

Os aethoch r(h)y gynnar
I'r gwely'n ddialgar,
O, codwch yn (h)awddgar
O, codwch yn (h)awddgar
O, codwch yn (h)awddgar
Nos (h)eno.

Y dishan fras felys
 phob sort o sbeisys,
O, torrwch (h)i'n r(h)atus
O, torrwch (h)i'n r(h)atus
O, torrwch (h)i'n r(h)atus
Y Gwyla.

O, tapwch y baril
A 'llengwch a'n r(h)ugul;
Na rannwch a'n gynnil
Na rannwch a'n gynnil
Na rannwch a'n gynnil

Y gwyla.

Gwrando

Cân y Fari Lwyd

Tâp AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g. 1883), Brynmenyn, ger Pen–y–bont ar Ogwr, Sir Forgannwg. Hyd at tuag 1933 arferai WMR weld gwŷr yn 'canu gwaseila', gan ddwyn y Fari Lwyd allan, yn y pentrefi i'r gogledd ddwyrain o Ben–y–bont (Coety, Bryncethin, etc.).

Nodiadau

Mari Lwyd yw'r enw a roed fynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partïom 'canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig. Y mae'r ffigur yn ddigon adnabyddus yn nefodau tymhorol gwledydd eraill. Ymddengys ei fod gynt yn hysbys drwy hanner deheuol Cymru eithr yn ystod y ganrif bresennol anaml y'i gwelwyd y tu allan i Forgannwg, lle nad yw eto wedi llwyr ddiflannu. Y mae'r saith bennill a roir yn y gyfrol hon yn cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai ‘difyfyr’) rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws. Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrio'r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, etc. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod ac, o bosibl, rodd ariannol. Weithiau, o leiaf, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'r holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar fesur triban ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.

Am fanylion pellach ynglŷn â defod y Fari Lwyd gw. WFC, 49 ymlaen.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)