Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Os Daw fy Nghariad i Yma Heno

Baledi Printiedig o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Baledi Printiedig o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Os daw fy nghariad i yma heno, yma heno, yma heno,
Os daw fy nghariad i yma heno i guro'r gwydyr glas,
Rhowch ateb gweddus iddo, gweddus iddo, gweddus iddo,
Rhowch ateb gweddus iddo, Na 'thebwch mono'n gas –

Nad ydyw'r ferch ddim gartref, y ferch ddim gartref, y ferch ddim gartref,
Nad ydyw'r ferch ddim gartref, na'i hwyllys yn y tŷ;
Llanc ifanc o blwy arall, o blwy arall, o blwy arall,
Llanc ifanc o blwy arall sydd wedi mynd a hi.

Gwrando

Os Daw fy Nghariad i Yma Heno

Tâp AWC 829. Recordiwyd 11.9.64 gan Mrs Ellen Ellis (gwraig tŷ, g. 1907) a'i merch Rhian (g. 1945), Gwynfryn, Mynytho, ger Pwllheli, sir Gaernarfon. Pan oedd EE tua 4 oed dysgodd y gân hon oddi wrth ei mam, gwraig o Nefyn.

Nodiadau

Ymddengys geiriau'r gân fel y'u recordiwyd yn uned hunan–gynhaliol, eithr (heb yr ailadrodd cymalau) fe'u hargraffwyd droeon ar daflenni baled! fel y cyntaf o bum pennill. Tystia CCAGC (i, 134–5, 208–9, a ii, 282–3) i eiriau 'Os Daw 'Nghariad I Yma Heno' gael eu canu ar amryw donau gwahanol: y dyddiau hyn fe'u cenir gan berfformwyr llwyfan ar y dôn sy'n ymddangos fel fersiwn ar yr emyn–dôn 'Hen Ddarbi' neu 'Cyfamod'. Hyd y gwyddys, ni chyhoeddwyd y geiriau o'r blaen gyda'r dôn a roir yn y gyfrol bresennol. (Fodd bynnag, argraffwyd hon yn CCAGC, iii, 200, gogyfer a geiriau 'Y Ferch o Geredigion'.)

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)