Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Peth Mawr ydy Cariad

Llwy Garu o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Llwy Garu o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Peth mawr ydy cariad pan elo fo'n drwm,
Peth gyrrodd gryn lawer o'u llefydd i ffwrdd;
Peth gyrrodd fi fy hunan oedd geir iau fy nhad,
A'm mam, oedd yn garedig,a'm gyr–rodd i o'm gwlad.
To mi wec ram di dwdl al i dal ffôl a di–dl ali do.

Mi fynnaf gael dy gladdu a'th roddi di dan bridd
Cyn cei di briodi; mi'th claddaf di, yn wir.
Rhof dorchen ar dy wyneb a charreg uwch dy ben
Cyn cei di fartsio'th gorffyn, wel, gyda'r feinir wen."
To mi wec ram di dwdl al i dal ffôl a di–dl ali do.

Pan glywais innau hynny es gyda man–i–wâr,
Bum hefo–(h)i am saith mlynedd heb weld na thad na mam;
Saith mlynedd wedi pasio pan ddois i i Gymru'n ô1,
Gan dybied yn fy nghalon fach na fyddwn i byth mor ffol.
To mi wec ram di dwdl al i dal ffôl a di–dl ali do.

At dŷ fy nhad mi gerddais, lle bum i lawer tro,
A phawb oedd yno'n llawen fy ngweld yn dod yn ô1;
Awr nos a ddaeth yn brysur, a'm meddwl gyda mi,
At dŷ yr hogen annwyl cyfeiriais yn bur hy.
To mi wec ram di dwdl al i dal ffôl a di–dl ali do.

Gwrando

Peth Mawr ydy Cariad

Tâp AWC 171. Recordiwyd 30.4.59 gan Miss M. M. Williams (athrawes, g. 1894), Brynsiencyn, sir Fôn. Pan oedd yn blentyn bach dysgodd MMW y gân hon oddi wrth ei thad, brodor o Frynsiencyn, a chredai iddo ef ei chodi ar y llofft stabal (set ystafell y gweision) pan oedd yn was fferm. Ni chanwyd pumed pennill y gân i MMW gan fod ei thad yn ei ystyried yn anweddus: doi i'r amlwg yn hwnnw fod epil, yn ogystal â chariad, yn croesawu'r alltud yn ei ô1.

Nodiadau

Sylwer ar ymddangosiad y byrdwn disynnwyr eto, a hon yn gân ychwanegol a gofnodwyd ym Môn. Cymh. y dôn yn arbennig i'r un a roir gogyfer a geiriau gwahanol yn CCAGC, ii, 274, o dan y teitl 'Dydd Llun y Bore'/'Cerdd y Gog Lwydlas'.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)