Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Mae'n Gystal gen i Swllt

Swllt o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Swllt o Gasgliadau'r Amgueddfa.

Mae'n gystal gen i swllt a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
A deg i fynd adre i fy Ngwenno bach i

Mae'n gystal gen i ddeg a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
Ac wyth i fynd adre i fy Ngwenno bach i

0! braf! wyth! 0! ffein! wyth!

(Ac ymlaen drwy 'wyth', 'chwech' a 'grot' nes cyrraedd yr isod.)

0! braf! dwy! 0! ffein! dwy!

Mae'n gystal gen i ddwy a fy mywyd bach i
Ceiniog i wario a cheiniog i swagro
A dim i fynd adre i fy Ngwenno bach i.

Gwrando

Mae'n Gystal gen i Swllt

Tâp AWC 426. Recordiwyd Hydref 1961 gan y Parchedig H. Cadnant Griffiths (gweinidog, g. 1896), Abergele, sir Ddinbych. Pan oedd HCG yn blentyn bach clywodd y gân hon gan hen wraig a'i canodd i'r plant yn ysgol Pentrefoelas.

Nodiadau

Ceir mwy nag un fersiwn ar eiriau hon yn Gymraeg – un arall, er enghraifft, yw 'Da Yw Swllt', yn FWTT, 60. Cyfetyb i'r gân Saesneg a adwaenir yn gyffredinol bellach fel 'I've Got Six–pence'. Cymh. 'Mae'n Gystal Gen I Swllt' yn arbennig â'r fersiwn a ddyfynnir yn ODNR, 389: '0 dear twelvepence, I've got twelvepence,/I love twelvepence as I love my life,...' Cyhoeddwyd yr olaf yn 1846 yng nghasgliad Edward F. Rimbault o rigymau plant.

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)