Caneuon Gwerin

Nôl i Restr Caneuon

Y Gaseg Ddu

D. Roy Saer.

D. Roy Saer.

Mi es i ffair Henfeddau,
Mi brynais gaseg ddu,
A phunt a rois amdani,
A mawr 'y ngholled i.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
A mawr 'y ngholl-ed i.

Fe fwydais i'r hen gaseg,
 dŵr a cheirch a bran,
Nes aeth yr hen greadur
Rhy dew i symud cam.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Rhy dew i symud cam.

Fe drigodd yr hen gaseg,
A'i chalon oedd fel dwy,
A 'ngadael i pryd hynny
Heb allu prynu mwy.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Heb allu prynu mwy.

Fe ddaeth y brain a'r piod
I ofyn am bris y cig;
Fe ddwedodd un pioden,
"Mae'n ddigon i ni i gyd!"
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
>"Mae'n ddigon i ni i gyd!"

Chwi bobol nawr sy'n gwrando,
Yn fawrion ac yn fan,
Er mwyn cael caseg arall,
Rhowch geiniog am y gân.
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Tyri yff, tyri yff, tyri dal,
Rhowch geiniog am y gân.

Gwrando

Y Gaseg Ddu

Tâp AWC 428. Recordiwyd 16.11.61 gan Bertie Stephens (bridiwr cŵn hela, etc., g. 1900), Llangeitho, sir Aberteifi. Wrth ganu, cyfeiliai'r canwr iddo ei hun drwy guro rhithmau â'i ddwylo ar y bwrdd – gan ddynwared sŵn 'y felin ban' (y felin bannu gwlân), meddai.

Nodiadau

Yn Abergorlech, sir Gaerfyrddin, y magwyd BS. Yr oedd ganddo rai degau o gerddi llafar gwlad yn fyw ar ei gof a chanodd lawer arnynt mewn cyngherddau. Clywodd y gân hon ar adeg y Rhyfel Byd Cyntaf gan 'Dai Arian Drwg', dyn a werthai watsys ar hyd ffeiriau.

Ymddengys bod 'Y Gaseg Ddu' yn gân arbennig o boblogaidd gynt yn ne–orllewin Cymru. Sylwer ar y pennill olaf, sy'n cyflwyno apêl draddodiadol y canwr/gwerthwr baled am geiniog – y tro hwn am geiniog 'er mwyn cael caseg arall'!

Lawrlwythiadau

Nôl i Restr Caneuon
Hector Williams (canwr baledi)