Cytundeb Cymryd Rhan a Defnydd

Mae casglu a chofnodi atgofion pobl am fywyd yng Nghymru wedi bod yn rhan bwysig o waith Amgueddfa Cymru (yr Amgueddfa) erioed, mae'n rhan o'n Siarter Brenhinol ac yn rhan ganolog o’n Tasg Gyhoeddus. Nod yr Amgueddfa yw diogelu'r atgofion hyn, a bydd eich cyfraniad yn dod yn rhan o’r Casgliad Cenedlaethol ac yn cael ei archifo er budd y cyhoedd. Bydd y cytundeb hwn yn galluogi’r Amgueddfa i gadw eich cyfraniad yn barhaus, a’i ddefnyddio, gan sicrhau y bydd yn cael ei ychwanegu at gasgliad yr Amgueddfa.

Rwy’n cytuno y bydd fy nghyfraniad yn dod yn rhan o’r Casgliad Cenedlaethol dan ofal Amgueddfa Cymru. Bydd yn cael ei gadw fel adnodd parhaol i’r cyhoedd gael cyfeirio ato ac i'w ddefnyddio mewn ymchwil, cyhoeddi, addysg, darlithoedd, darlledu, adnoddau digidol ac ar-lein, a defnydd gan drydydd parti os bydd yr Amgueddfa yn pennu fod hynny’n briodol (e.e Casgliad y Werin Cymru).

Os ydw i dan 18 oed, mae fy rhiant neu warcheidwad cyfreithiol wedi cytuno i mi gymryd rhan ac wedi cytuno i’r defnydd o unrhyw ffotograffau (naill ai ffotograffau ohonof innau neu ffotograffau a dynnwyd gennyf) ac unrhyw gyfraniadau sain/gweledol, ac mae wedi llenwi’r wybodaeth ddemograffig ar fy rhan.

Hawlfraint a Chydsyniad i Ddefnyddio Cyfraniad

Dyma ddatgan mai fi yw perchennog cyfreithiol a dilyffethair y deunydd a uwchlwythwyd ac rwy’n cadarnhau fy mod yn eu cyfrannu i’r Amgueddfa o hyn allan yn rhodd absoliwt, am byth.

Rwy’n cytuno fy mod yn meddu ar y caniatâd priodol gan unrhyw berson sy’n ymddangos yn y ffotograffau a deunydd clyweledol a uwchlwythwyd gennyf a’i fod yn cytuno y caf uwchlwytho’r deunydd ar gyfer y defnydd a ddisgrifir yn y cytundeb hwn.

Eich Data Personol

Defnyddir eich enw fel y pennwyd gennych yn yr holiadur yn unig. Bydd yr Amgueddfa yn ymdrin â’ch cyfraniad a’r modd y caiff ei ddefnyddio yn gyfrifol a chydag integriti bob tro a bydd yn sicrhau y dengys cwrteisi i gyfranwyr fel y bo’n briodol.

Am ragor o wybodaeth am sut y bydd yr Amgueddfa yn defnyddio eich data personol, darllenwch ein

Hysbysiad Preifatrwydd.