Rhodd yn eich ewyllys

Gadewch rodd yn eich ewyllys a helpwch ni i adrodd stori Cymru

Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn ein helpu i sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn perthyn i bawb ac yma at ddefnydd pawb.

Gallai eich cymynrodd ein helpu mewn sawl ffordd wahanol, boed hynny i wella adeiladwaith ein hamgueddfeydd, i helpu i ehangu neu warchod ein casgliadau gwerthfawr neu i’n helpu i ddarparu ein rhaglenni addysg. Cewch y boddhad o wybod, faint bynnag rydych yn ei addo, y byddwch yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i fwynhau a gwerthfawrogi cyfoeth amrywiol hanes a diwylliant Cymru.

Lawrlwythwch ein llyfryn cymynroddion yma

Eich rhodd, eich gwaddol

Mae rhoddion anghyfyngedig (rhoddion sy’n cael eu rhoi ar sail gyffredinol), yn caniatáu i ni fod yn hyblyg a phenderfynu ble y dylid gwario’ch rhodd ar y pryd. Gallai rhodd yn eich ewyllys ein helpu i ddal ati i ofalu am gasgliadau Cymru, datblygu cysylltedd digidol gyda phobl na fyddai’n gallu manteisio ar ein gwaith fel arall, creu arddangosfeydd, neu barhau i weithio gyda phobl mewn cymunedau ledled Cymru.

Rydyn ni’n deall bod llawer o bobl yn teimlo angerdd arbennig tuag at ryw agwedd ar ein gwaith neu un o’n hamgueddfeydd, ac felly’n dymuno bod eu rhodd yn adlewyrchu hynny; mae eich cymynrodd yn rhan o’ch gwaddol. Os oes gennych amodau neu ddymuniadau ynghlwm wrth eich cymynrodd, mae’n bwysig eich bod yn trafod eich dymuniadau gyda ni wrth ysgrifennu eich ewyllys fel ein bod ni’n gallu sicrhau y byddwn yn gallu gwireddu eich dymuniadau.

Cysylltwch â ni yma

“Mae Amgueddfa Cymru yn ein hysbrydoli, yn enwedig treftadaeth cenhedlaeth ein neiniau a theidiau sydd i’w gweld yn Sain Ffagan a Big Pit. Fodd bynnag, roedden ni eisiau i’n cymynrodd helpu pobl ifanc Cymru i ymwneud â’r amgueddfeydd ac adrodd eu straeon eu hunain er mwyn ysbrydoli eraill nawr ac yn y dyfodol. Bu’r tîm yn ein helpu i eirio ein hewyllys fel ein bod yn hyderus y caiff ein cymynrodd ei defnyddio yn y ffordd iawn. Rhaid i Amgueddfa Cymru ddal i esblygu a bod yn berthnasol er mwyn difyrru ac addysgu pobl am genedlaethau i ddod. Pa atgofion fyddwn ni’n eu gadael i ymwelwyr y 22ain ganrif?“

Y Jones’, cymynwyr presennol

Rhoi mewn dull treth effeithlon

Rydyn ni’n elusen sy’n ceisio ysbrydoli pawb rydyn ni’n eu cyrraedd drwy stori Cymru. Rydyn ni’n dibynnu ar haelioni ein cefnogwyr i barhau â’r gwaith a wnawn.

Mae rhoddion i elusennau wedi’u heithrio rhag treth etifeddiant, sy’n golygu y gallai gadael rhodd i ni helpu i leihau’r atebolrwydd treth ar eich ystâd. Gallwch ddarllen mwy ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Gweler ein Cwestiynau Cyffredin ar adael rhodd yn eich ewyllys yma

Rhoi gwybod i ni am rodd

Rydyn ni’n deall fod eich dymuniadau olaf yn breifat. Fodd bynnag, os ydych yn bwriadu gadael rhodd i Amgueddfa Cymru yn eich ewyllys, byddem yn gwerthfawrogi’n fawr cael y cyfle i ddiolch i chi a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwaith.

I roi gwybod am eich rhodd, cysylltwch â ni yma

Gadael eitem i Amgueddfa Cymru

Os ydych yn ystyried gadael eitem benodol i ni yn eich ewyllys, byddem yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i ni wrth i chi ysgrifennu eich ewyllys fel bod modd i ni sicrhau y byddwn yn gallu derbyn eich eitem a gofalu amdani yn unol â’ch dymuniadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin.