Casgliadau Celf Arlein
Heulwen yn Vernon
BONNARD, Pierre (1867 - 1947)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 47.5 x 56.2 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2164
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Mae'r gwaith hwn o tua 1920 yn darlunio gardd yr arlunydd o'i dy^ yn Vernonnet yn nyffryn Afon Seine. Hwyrach mai ei wraig Marthe yw'r wraig ar y chwith. Mewn fersiwn gynharach o'r olygfa hon (Orielau Sefydliad Courtauld, Llundain), a beintiwyd tua 1910, mae'r lliwiau'n dawelach. Yn ei flynyddoedd diwethaf yr oedd y berthynas rhwng tu mewn adeiladau a gerddi o ddiddordeb mawr i Bonnard. Prynodd Margaret Davies y gwaith hwn ym 1960.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.