Casgliadau Celf Arlein

Myrddin ac Arthur [Merlin and Arthur]

JOHN, Sir William Goscombe (1860 - 1952)

Cyfrwng: efydd

Maint: 61.0 cm

Derbyniwyd: 1932; Rhodd; Syr William Goscombe John

Rhif Derbynoli: NMW A 127

Ar droad y 19eg ganrif gwelwyd adfywiad yn y diddordeb yn nelweddau a chwedloniaeth y Celtiaid yng Nghymru. Y cerflun efydd hwn, a arddangoswyd yn yr Academi Frenhinol ym 1902, yw unig waith John ar thema Arthuraidd. Yn ôl chwedloniaeth ganoloesol, bu'r bardd a'r dewin Cymreig, Myrddin, yn cynorthwyo Uthr Bendragon wrth iddo hudo Yguerne, gwraig Dug Cernyw. Traddodwyd y plentyn a ddeilliodd o'u perthynas, y Brenin Arthur yn ddiweddarach, i ofal Myrddin. Mae ystum a gwisg y cerflun hwn yn dangos dyled i Rodin, yn arbennig ei gerfluniau anferth o Bwrdeisiaid Calais.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd