Casgliadau Celf Arlein

Y Bachgen o Sgowt [The Boy Scout]

JOHN, Sir William Goscombe (1860 - 1952)

Y Bachgen o Sgowt

Dyddiad: 1910

Cyfrwng: efydd

Maint: 82.0 cm

Derbyniwyd: 1952; Rhodd; Y Foneddiges Webb

Rhif Derbynoli: NMW A 126

Erbyn 1910, roedd Goscombe John wedi mwynhau degawd o lwyddiant poblogaidd a beirniadol, gan lwyddo i gael nifer o gomisiynau ar gyfer cofebau cyhoeddus o bwys, yng Nghymru yn enwedig. Daeth yn aelod o'r Academi Frenhinol ym 1909, ac fe'i gwnaed yn farchog ym 1911. Arddangoswyd y ffigwr hwn yn yr Academi Frenhinol ym 1911 yn gyntaf. Portread yw o Basil Webb, unig fab Henry Webb, Llwynarthau, Sir Fynwy, AS Rhyddfrydol a pheiriannydd mwyngloddio, a oedd yn un o gyfarwyddwyr Cwmni Ocean Coal David Davies. Mae gwaith modelu, ystum a graddfa'r ffigwr hwn yn atgoffa rhywun o David Andrea del Verrocchio. Bu'r gwrthrych yn gwasanaethu fel Ail Is-gapten gyda'r Gwarchodlu Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac fe'i lladdwyd ym mis Rhagfyr 1917. Bu'r cerflun hwn yn rhan o An Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction ym 1913-14.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd