Casgliadau Celf Arlein

Gynnau Mawr i'r Ffrynt [Big Guns to the Front]

KEMP-WELCH, Lucy Elizabeth (1869 - 1958)

(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)

Cyfrwng: olew ar fwrdd

Maint: 198.0 x 381.0 cm

Derbyniwyd: 1921; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 4939

Ganwyd Lucy Kemp Welch yn Bournemouth a gwnaeth enw iddi ei hun fel peintiwr ceffylau. Astudiodd Lucy dan Herkomer yn Bushey. Roedd yn awyddus i sefydlu ei hun fel arlunydd rhyfel yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ond bu raid iddi wynebu llawer o wrthwynebiad oherwydd ei rhyw. Fe ddaeth poster cynnar o'i gwaith a gynhyrchodd i Bwyllgor Recriwtio'r Senedd yn boblogaidd iawn fodd bynnag. Er bod y cafalri yn araf ddiflannu, roedd ceffylau yn dal i fod yn bwysig o ran symud gynau a chyflenwadau a chynnal y cyfathrebu o dan yr amgylchiadau gwaethaf. Ei pheintiad mwyaf enwog oedd I'r Blaen â'r Gynnau.. Peintiodd hwn ar y safle ar Wastadedd Caersallog gan ddefnyddio bocs mawr i warchod y cynfas. Fe'i rhoddwyd ar ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1917. Bu llwyddiant y llun hwnnw yn fodd i'w hannog i gychwyn ar y cynfas mawr hwn. Bu'n gwylio'r Artileri Brenhinol yn hyfforddi yng Ngwersyll Morn, Magdon Hill a'r Punchbowl ger Caer-wynt a phenderfynodd osod yr olygfa yn yr eira. Derbyniodd Drylliau Mawr i'r Ffrynt glod mawr pan arddangoswyd ef yn Academi Frenhinol 1918. Ym 1921, gwerthwyd Gynnau Mawr i'r Ffrynt i Amgueddfa Genedlaethol Cymru am £840 o'r Gronfa Darluniau Rhyfel. Roedd yn rhaid ei storio oherwydd bod yr adeilad heb ei orffen. Fe'i harddangoswyd o 1927 hyd yr Ail Ryfel Byd ac ym 1959 fe'i rhoddwyd ar fenthyciad tymor hir i Glwb Caerdydd a'r Sir. Mae wedi dychwelyd yn ddiweddar ac wedi gwaith cadwraeth mae'n crogi eto yn y brif neuadd.

sylw (2)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
keith mcdonald
17 Medi 2016, 17:39
i have a origonal signed print around 1930 for sale
Kate Tomlinson
10 Ionawr 2012, 10:59
Would love to come and see this painting; we possess a water colour sketch for it painted in 1918 and signed by the artist which probably came into the family via my partner's grandfather the literary agent, Clement Shorter, a contemporary of the artist.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd