Casgliadau Celf Arlein

Ar Afon Llugwy islaw Capel Curig [On the Llugwy below Capel Curig]

LEADER, Benjamin Williams (1831 - 1923)

Ar Afon Llugwy islaw Capel Curig

Dyddiad: 1903

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 91.7 x 142.2 cm

Derbyniwyd: 1949; Rhodd; Yr Anrh. Arnold Palmer

Rhif Derbynoli: NMW A 4945

Benjamin Leader oedd un o'r arlunwyr tirluniau Prydeinig mwyaf llwyddiannus yn ail hanner y 19eg ganrif, a bu'n arddangos yn yr Academi Frenhinol o 1857 hyd 1904. Ymwelodd ô Gogledd Cymru am y tro cyntaf ym 1859, gan aros ym Metws y Coed. Daeth Dyffryn Conwy yn un o'i hoff fannau i fraslunio, fel y bu i lawer o arlunwyr Oes Fictoria. Fe'i hetholwyd yn aelod o'r Academi Frenhinol ym 1897, ac enillodd fedalau yn Exposition Universelle Paris ym 1889 a Ffair y Byd yn Chicago ym 1893. Mae'r Llugwy yn ymuno ô'r Conwy ym Metws y Coed, ac roedd gwaith tebyg, wedi ei ddyddio mor hwyr â 1913, yn un o'r darluniau a welwyd yn yr arddangosfa yng Nghaerdydd ym 1913-14 dan y teitl Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
LizB
23 Tachwedd 2014, 15:28
I love this picture and make a point of going to see it whenever I am in Cardiff. There is something about how the light dances of the paint. It makes it look as if the river is moving.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd