Casgliadau Celf Arlein
Stafell Wely Gweithiwr [Working Man's Bedroom]
LEWIS, Edward Morland (1903 - 1943)
© Barbara Webb
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 55.9 x 77.8 cm
Derbyniwyd: 1972; Cymynrodd; Eric Lewis
Rhif Derbynoli: NMW A 2558
Ar ôl bod yn astudio yn Ysgolion yr Academi Frenhinol ac yn gweithio fel cynorthwywr i Sickert, ymunodd Lewis y Chymdeithas Arlunwyr Llundain ym 1930. Yn Llundain rhannai lety gyda'i frawd, Eric, a ddarlunnir yma'n gwella ar ôl salwch. Peintiwyd y cyfansoddiad hwn yn gynnar yn y 1930au a chafodd ei arddangos gyntaf gan Gymdeithas Arlunwyr Llundain ym 1932. Mae'r tu mewn intimiste yn dangos Lewis ar ei agosaf at arddull Sickert.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.