Casgliadau Celf Arlein

Diana Pryce (g.1731) â phriodoleddau'r Dduwies Diana [Diana Pryce (b.1731) with the attributes of the Goddess Diana]

LEWIS, John (1793 - fl.1769)

Diana Pryce (g.1731) â phriodoleddau'r Dduwies Diana

Dyddiad: 1752

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 127.3 x 101.2 cm

Derbyniwyd: 1992; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 1721

Jn Lewis fect / 1752 yw'r llofnod a'r dyddiad ar y peintiad hwn. Arlunydd portreadau a pheintiwr llwyfannau oedd Lewis. Roedd yn weithgar yn Nulyn a Llundain yn bennaf ac roedd eisioes wedi peintio portreadau o'r gwrthrych a'i chwaer ym 1737. Yma mae Diana yn ymddangos gyda lleuad fain ar ei phen ac yn dal bwa saeth, symbolau o'r dduwies hela. Roedd yn ferch i Syr John Pryce o Blasty'r Drenewydd, Y Drenewydd, Sir Drefaldwyn.

Roedd ef yn gymeriad hynod a gadwai gyrff ei ddwy wraig gyntaf wedi eu phreneinio yn ei ystafell wely, hyd nes i'w drydedd wraig fynnu ei fod yn eu symud.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd