Casgliadau Celf Arlein
Dynion yn Pysgota [Men Fishing]
LOWRY, Laurence Stephen (1887 - 1976)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Dyddiad: 1966
Cyfrwng: olew ar fwrdd
Maint: 26.0 x 35.0 cm
Derbyniwyd: 1984; Ar fenthyg; Ymddiriedolaeth Derek Williams
Rhif Derbynoli: NMW A(L) 575
Tra oedd yn gweithio fel clerc a chasglwr trethi, byddai Lowry yn cael gwersi arlunio ym Manceinion ac yn Salford, ei fro enedigol. Ym 1915 darganfu'r testunau ar gyfer ei olygfeydd diwydiannol enwog yn yr awyr agored ym maestrefi Pendlebury a Swinton. Daeth Lowry yn un o beintwyr mwyaf poblogaidd Prydain. Mae'r morlun hwn yn waith diweddar unlliw nodweddiadol.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.