Casgliadau Celf Arlein

Argenteuil, Cwch (astudiaeth)

MANET, Édouard (1832 - 1883)

Argenteuil, Bad (astudiaeth)

Dyddiad: 1874

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 59.4 x 81.3 cm

Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 2467

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Yn yr awyr agored y peintiodd Manet yr astudiaeth hon gan mwyaf, en plein air yn Argenteuil, i lawr ar hyd Afon Seine o Baris. Mewn tywydd mwll, mae tri chwch hwylio wedi eu hangori gyda'i gilydd a'u mastiau'n adlewyrchu yn y dŵr llwyd. Yn y cefndir mae dau gwch byw hir, un gwyn ac un du, wrth angor ar lan yr afon wrth ymyl rhes o goed, a'r tu hwnt mae simnai fawr sy'n chwydu mwg. Astudiaeth yw'r darlun hwn ar gyfer cyfansoddiad wedi ei osod mewn tywydd heulog, wedi ei ehangu i gynnwys glan yr afon gyda ffigyrau merch a phlentyn ar y gwaelod ar y chwith yn y blaendir. Prynodd Margaret Davies y gwaith ym Mharis ym 1920.

sylw (4)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Fran
9 Medi 2010, 09:20
Thank you for response on how to purchase this print. I'm so glad I looked here again. I ordered my print today and can't wait to receive it, get it framed, and display it on my wall. Thank you again!
Amgueddfa Cymru
4 Awst 2010, 10:03
Dear Fran - Thank you for your comment. Please visit the Print on Demand pages of our website for details on reproductions of this image:
www.museumwales.ac.uk/picturelibrary
Fran
4 Awst 2010, 10:00
I love this painting and would really like to have a print but am unable to locate one. I hope prints become available soon in the US.
Hunter Meek
25 Tachwedd 2009, 09:23
I love this painting. I saw it in person when the "Turner to Cezanne" exhibit came to Oklahoma City, OK. The entire collection was really good.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd