Casgliadau Celf Arlein

Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad

BOTTICELLI, Alessandro (1447 - 1510), priodolir i

Y Forwyn a'r Plentyn gyda Phomgranad

Cyfrwng: olew ar fwrdd

Maint: 64.8 x 41.9 cm

Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies

Rhif Derbynoli: NMW A 242

Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies

Mae’r paentiad hwn o’r Forwyn a’r Plentyn, cymynrodd Gwendoline Davies i Amgueddfa Cymru ym 1952, wedi bod yn ddirgelwch erioed. Oedd y gwaith gan Botticelli ei hun, un o’i ddilynwyr neu artistiaid yn ei weithdy? Does neb yn berffaith siŵr, ond mae tystiolaeth newydd yn awgrymu bod y gwaith yn dod o stiwdio Botticelli, a taw’r meistr ei hun sy’n gyfrifol am rannau ohono.

Botticelli oedd un o brif beintwyr Fflorens ar ddiwedd y bymthegfed ganrif a châi ei noddi gan y teulu Medici a'r Pab. Mae'r llun hwn wedi ei seilio ar y ffigyrau canolog yn y darn allor San Barnaba a beintiodd tua 1485 ac sydd yn Oriel Uffizi yn Fflorens. Mae'r pomgranad yn llaw'r plentyn Iesu yn arwydd Cristnogol o'r Atgyfodiad.

Gwelwyd y gwaith mewn pennod o Britain’s Lost Masterpieces y BBC ar 13 Tachwedd 2019.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Virginia Knapp
28 Tachwedd 2019, 06:27
In my opinion this painting depicts Mary Magdalene, not the Virgin Mary. Loose red hair, clothing red and green, not blue. Toddler obviously uncircumcised. Pomegranate is a symbol of sexual potency.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd