Casgliadau Celf Arlein

Richard Wilson (1713-1782)

MENGS, Anton Raphael (1728 - 1779)

Richard Wilson (1713-1782)

Dyddiad: 1752

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 84.6 x 75.2 cm

Derbyniwyd: 1947; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd

Rhif Derbynoli: NMW A 113

Casgliad: Casgliad Syr Watkin Williams-Wynn

Mae Richard Wilson yn eistedd wrth ei îsl, yn peintio tirlun. Mae’n gwisgo het tebyg i dwrban cyfforddus yn lle’r wigiau a wisgwyd yn y cyfnod. Mae'r osgo, sy'n debyg iawn i osgo hunan-bortread, yn creu awyrgylch o falchder proffesiynol a ffyniant. Yn raddol daeth dilyn gyrfa fel peintiwr yn fwy derbyniol yn gymdeithasol ar gyfer dynion Prydeinig, ac mae osgo Wilson yn awgrymu ymdeimlad o falchder proffesiynol a chyfoeth. Llwyddodd gyrfa Wilson am gyfnod yn yr Eidal, ac ar ôl iddo ddychwelyd i Brydain. Anton Mengs beintiodd y portread hwn yn Rhufain yn gyfnewid am un o dirluniau Wilson – gweithred o gyfeillgarwch ac edmygedd y naill ddyn at y llall.

Caiff Wilson, sy’n wreiddiol o Sir Drefaldwyn, ei alw’n aml yn ‘Dad tirluniau Prydain’ am y rôl allweddol a chwaraeodd yn natblygiad y traddodiad, er iddo hyfforddi fel peintiwr portreadau i gychwyn. Ef oedd yr artist mawr cyntaf i boblogeiddio delweddau o Gymru oedd yn mynd y tu hwnt i gywirdeb topograffaidd. Gwerthodd y darlun hwn wedyn i Syr Watkin Williams-Wynn, a brynodd bedwar tirlun hefyd ganddo ym 1771. Yr oedd Mengs yn un o brif gystadleuwyr Batoni yn Rhufain, ac yn hybu neo- glasuriaeth.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
sandy saks
18 Mai 2015, 02:49
I would like more info on my Richard Wilson on wood.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd