Casgliadau Celf Arlein
Menyw a Phlentyn mewn Dôl yn Bougival
MORISOT, Berthe (1841 - 1895)
Dyddiad: 1882
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 60.1 x 73.3 cm
Derbyniwyd: 1963; Cymynrodd; Margaret Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 2491
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Daeth Morisot yn drwm o dan ddylanwad Manet, a phriododd ei frawd Eugène ym 1874. Yn y flwyddyn honno dangosodd ei gwaith yn yr Arddangosfa Argraffiadol gyntaf. Ym 1881 dywedodd y beirniad Gustave Geffroy: 'Does neb yn cynrychioli Argraffiadaeth gyda mwy o ddawn na mwy o awdurdod na Morisot'. Peintiwyd yr olygfa hon en plein air yn Bougival, i'r gorllewin o Baris, lle bu'r arlunydd yn aros yn ystod yr haf ym 1881 a 1882. Mae'n debyg mai ei merch Julie, a aned ym 1878, a'i morwyn Paisie sydd i'w gweld yn y llun.
sylw - (2)
Dear Charles Finely,
Thank you very much for your message. You can find a higher-resolution reproduction of this painting on our website Collections Online; please see here.
Best wishes,
Marc
Digital Team