Casgliadau Celf Arlein

Bwrdd gyda Chiwbiau [Table with Cubes]

NASH, David (1945 - )

Dyddiad: 1971-2

Cyfrwng: pren

Maint: 98.1 cm (table only)

Derbyniwyd: 1980; Rhodd; Cymdeithas Celfyddyd Gyfoes Cymru

Rhif Derbynoli: NMW A 2423

Bu Nash yn astudio yn Kingston, Brighton a Chelsea ac mae'n byw ym Mlaenau Ffestiniog ers 1967. Dechreuodd y gwaith hwn gyda chyfres o gerfiadau bach haniaethol wedi eu torri'n arw â bwyell. Meddai'r arlunydd: 'Roedd yr holltau'n mynd â'm bryd. Roedd y bwlch du yn yr hollt yn rhoi mwy o wybodaeth am gyfaint y gwrthrych a syniad am ei du mewn. Cymhwysais hynny at adeiladwaith geometrig ciwb a'r bwlch yn yr ymylon yn creu llinell ddu o gwmpas y gwrthrych. Tyfodd y bwrdd fel ffordd o gyflwyno'r ciwbiau.'

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd