Casgliadau Celf Arlein

Bacchanal

BRANGWYN, Sir Frank William (1867 - 1956)

Bacchanal

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 102.8 x 76.3 cm

Derbyniwyd: 1943; Rhodd; Syr William Goscombe John

Rhif Derbynoli: NMW A 150

Cychwynnodd Brangwyn ei yrfa yng ngweithdy William Morris (1834-1896) yn bymtheg oed. Teithiodd yn eang yn ei flynyddoedd cynnar gan ddatblygu techneg gyflym a brwdfrydedd at liwiau cryf a ciarosgwro. Enillodd ei blwyf gyda chyfres o ddarluniau morwrol dramatig rhwng 1889 a 1902, ond roedd yn fwy enwog dramor nag ym Mhrydain o hyd. Mae'r cyfansoddiad hwn a wnaed tua 1907 mae'n debyg, yn adlewyrchu gwybodaeth Brangwyn am yr arlunydd Fflemaidd o'r ail ganrif ar bymtheg Jacob Jordaens (1593-1678), a beintiodd sawl llun o nymffiaid a satyriaid yn cael hwyl. Daeth y gwaith i ddwylo Goscombe John, un o gyfeillion yr arlunydd, a bu ar fenthyg yn yr Exhibition of Works by Certain Modern Artists of Welsh Birth or Extraction ym 1913-14.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd