Casgliadau Celf Arlein
Mynediad y Milwyr Cymreig i Jerwsalem [Entry of the Welsh Troops into Jerusalem]
BRANGWYN, Sir Frank William (1867 - 1956)
© David Brangwyn
Dyddiad: 1920
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 103.2 x 143.5 cm
Derbyniwyd: 1932; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 2406
Darlunia'r gwaith hwn uchafbwynt ymgyrch Prydain yn erbyn byddin Twrci ym Mhalestina yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan gipiwyd Jerwsalem ganddynt ar 9 Rhagfyr 1917. Roedd yr 53fed Adran (Gymreig) yn un o'r tair Adran Brydeinig a ddioddefodd yr ymladd trymaf yn erbyn byddin Twrci, ac mae'r olygfa hon yn eu darlunio yn mynd i mewn i'r ddinas trwy Borth Jaffa. Cychwynnwyd y darlun ym 1920, a'i gwblhau ym 1931 ar gyfer Pwyllgor Coffa'r Rhyfel Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
sylw - (1)