Casgliadau Celf Arlein
Yr Harbwr yn Auteuil [Le Quai d'Auteuil]
NICHOLSON, Winifred (1893 - 1981)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 80.0 x 80.0 cm
Derbyniwyd: 1938; Rhodd; Y Gymdeithas Celfyddyd Gyfoes
Rhif Derbynoli: NMW A 2038
Bu Winifred Nicholson yn astudio yn Llundain a hi oedd gwraig gyntaf Ben Nicholson: priodwyd hwy ym 1920. Fel ei gw^r, yr oedd yn aelod blaenllaw o'r Gymdeithas Saith a Phump. Roedd effeithiau golau a lliw o ddiddordeb mawr iddi, ac yr oedd yn beintwraig tirluniau a bywyd llonydd gwych iawn. Daw'r gwaith hwn o 1932-33 o'i chyfnod ym Mharis rhwng 1932 a 1938. Roedd yn byw mewn fflat ail lawr yn 48 Quai d'Auteuil ac oddi yno gallai weld ar draws Afon Seine tuag at ffatri Citröen ar y lan gyferbyn.
sylw - (1)