Casgliadau Celf Arlein

Mewnlun Iseldiraidd

BREKELENKAM, Gerritsz. Quiringh van (1620 - 1658)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 44.4 x 61.6 cm

Derbyniwyd: 1921; Trosglwyddwyd; Tŷ Turner

Rhif Derbynoli: NMW A 3736

Mae gwraig y tŷ’n brysur yn brodio ac yn dewis llysiau o bwced, ond mae’n debyg nad yw hi mor rhinweddol ag y mae’n ymddangos. Byddai’r arlunydd Brekelenkam yn arbenigo mewn darluniau graddfa fach o’r tu mewn i adeiladau, a chanddynt ystyron cudd. Mae’r ferf naaien (gwnïo) o’r Iseldireg yn golygu cyplu hefyd, ac ystyriwyd bod winwns yn affrodisiaid. Mae tuswau o flodau’n rhybuddio rhag pleserau byrhoedlog ac mae’r llyfrau caeedig yn awgrymu anwybodaeth ddynol. Mae’r gwely yn y cefndir yn awgrymu y gallai’r wraig fod yn butain.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd