Casgliadau Celf Arlein
Gweledigaeth Sant Jerôm
RIBERA, Jusepe (c.1590 - 1652), dilynydd
Dyddiad: 1620 c.
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 203.5 x 153.4 cm
Derbyniwyd: 1975; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 6
Mae Sant Jerôm (tua 340-420) yn enwog am ei gyfieithiad Lladin o'r Beibl. Gwelodd angel yn canu'r Utgorn Olaf i gyhoeddi Dydd y Farn. Mae'n penlinio a'i law ar benglog, sy'n symbol o farwoldeb dyn. Y tu ôl iddo mae'r llew y dywedir iddo dynnu draenen o'i bawen. Arlunydd o Sbaen oedd Ribera a ymsefydlodd yn Naples, a reolid bryd hynny gan Sbaen. Mae ei ddehongliad dwys o henaint wedi cael dylanwad dwfn ar yr arlunydd anhysbys hwn.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.