Casgliadau Celf Arlein
Dethol Lloi [Selecting Calves]
ROBERTS, William (1895 - 1980)
(Nid oes modd darparu delwedd o'r gwaith celf hwn ar hyn o bryd. Mae hyn naill ai oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, neu oherwydd bod y ddelwedd yn aros i gael ei digideiddio. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan hyn.)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 33.0 x 43.2 cm
Derbyniwyd: 2002; Rhodd; Cyngor Celfyddydau Cymru
Rhif Derbynoli: NMW A 25816
Cafodd Roberts ei hyfforddi yn Ysgol Slade a bu'n arddangos gyda'r Fortigwyr ym 1915. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yr oedd yn filwr ac yn arlunydd rhyfel swyddogol. Yn ystod y 1920au dechreuodd Roberts beintio golygfeydd storïol o waith a hamdden, yn llawn ffigyrau trwm sy'n ein hatgoffa o arddull Fernand Léger. Cadwodd yr arddull honno weddill ei oes. Mae'n debyg fod yr olygfa hon yn dod o'r 1940au.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.