Casgliadau Celf Arlein

Y Forwyn a'r Plentyn gyda Sant Ffransis a'r Santes Lucy

ALLORI del Bronzino, Alessandro (1535 - 1607)

Y Forwyn a'r Plentyn gyda Sant Ffransis a'r Santes Lucy

Dyddiad: 1583

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 258.4 x 167.5 cm

Derbyniwyd: 1970; Prynwyd; gyda chefnogaeth Cronfa Genedlaethol y Casgliadau Celfyddyd

Rhif Derbynoli: NMW A 3

Cafdd Allori ei eni a'i hyfforddi yn Florence. Comisiynwyd y darn allor hwn gan y Cardinal Ferdinando de' Medici fel rhodd i gartref newydd Felice Peretti, y Cardinal Montalto, a wnaed yn Bab Sixtus V ym 1585. Gellir cyfiethu'r arysgrif Ladin o dan wely'r Forwyn fel hyn: 'Peintiwyd gan Alessandro Allori, dinesydd o Florence, disgybl i Agnolo Bronzino 1583'. Mae Crist y Plentyn yn codi ei fraich i fendithio, a gerllaw mae dau angel yn dal mêl ac ymenyn, sef cyfeiriad at broffwydoliaeth Esesia. Wrth ei draed yn penlinio mae Sant Ffransis a'r Santes Lucy. Yr oedd i'r ddau arwyddocâd ysbrydol i'r Cardinal Montalto, a oedd yn aelod o'r Urdd Ffransisgaidd a aned ar ddydd gŵyl y Santes Lucy ar 13 Rhagfyr. Mae hi'n dal bowlen sy'n cynnwys ei harian gwaddol a roes i'r tlodion. Hefyd gwelir iau'r yrch a oedd i'w chludo i'w marwolaeth. Wrth ei thraed mae'r cleddyf a ddefnyddiwyd i'w lladd.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd