Casgliadau Celf Arlein

Godfrey Goodman o Ruthun (1583-1656) [Godfrey Goodman of Ruthin (1583-1656)]

YSGOL BRYDEINIG, 16eg ganrif

Godfrey Goodman o Ruthun (1583-1656)

Dyddiad: 1600

Cyfrwng: olew ar banel

Maint: 52.8 x 41.0 cm

Derbyniwyd: 1930; Cymynrodd; Yr Anrh. Mrs Lawrence Brodrick

Rhif Derbynoli: NMW A 3452

Mae’n debyg mai Godfrey, ail fab Gawen Goodman o Ruthun, yw hwn. Mae’r arysgrifiad yn dyddio’r peintiad i 1600 pan oedd yr eisteddwr yn ddeugain oed. Mynychodd Godfrey Goleg y Drindod, Caergrawnt ac fe’i hordeiniwyd yn offeiriad yn esgobaeth Aberhonddu ym 1587. Fe’i dangosir yn gwisgo coler ac yn dal rhosyn y cŵn, un o symbolau’r teulu. Ar yr ochr chwith uchaf mae arfbais eryr deuben Goodman. Am flynyddoedd lawer cafodd y gwrthrych ei adnabod yn anghywir fel Godfrey Goodman arall sef trydydd mab Edward Goodman a thad Godfrey Goodman, Esgob Caerloyw.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
tptwilliams
30 Hydref 2021, 02:04
Your heading dates the subject 1583-1656, the dates of Bishop Goodman of Gloucester.
But your paragraph says the painting dates from 1600 when the subject/sitter was 40.
1600-1583=17 ??
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd