Casgliadau Celf Arlein

Henry Herbert, Ail Iarll Penfro (bu f.1604) [Henry Herbert, 2nd Earl of Pembroke (d.1604)]

YSGOL BRYDEINIG, 16eg ganrif

Henry Herbert, Ail Iarll Penfro (bu f.1604)

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 133.9 x 102.2 cm

Derbyniwyd: 1965; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 17

eRoedd yr eisteddwr yn fab hynaf i Iarll Cyntaf Penfro a'i wraig Anne Parr. Fe'i ganed oddeutu 1534 ac olynodd fel Ail Iarll Penfro ym 1570. Roedd ei drydedd wraig, Mary, yn chwaer i'r bardd Syr Philip Sidney. Mae’n debyg mai Herbert oedd gŵr cyfoethocaf a mwyaf pwerus Cymru ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Gŵr llys ydoedd, ac mae ei wisg a’i ystum yn adlewyrchu ei statws uchelwrol. Fe’i penodwyd yn Arglwydd Lywydd Cyngor Cymru ym 1586. Yr oedd ef ei hun yn noddwr diwylliedig a roes lawer o egni i adnewyddu Castell Caerdydd a darparodd nawdd i hynafiaethwyr a chasglodd lawysgrifau heraldaidd. Roedd yn Gymro Cymraeg, a disgrifiodd un o’i gyfoeswyr ef fel ‘llygad holl Gymru’. Paentiwyd y ddelwedd ddi-ildio, ffurfiol yma oddeutu 1590.

sylw (1)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
AS
29 Ebrill 2009, 08:58
Henry Herbert died January 19, 1601

See 'A Sidney Chronology 1554-1654'
by Michael G. Brennan and Noel J. Kinnamon
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd