Casgliadau Celf Arlein
Aeneas yn yr Isfyd
RUBENS, Sir Peter Paul (1577 - 1640)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 47.0 x 32.0 cm
Derbyniwyd: 1984; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 34
Mae’r ymladdwr Aeneas o Droea wedi mentro i’r Isfyd i chwilio am ei dad marw. Fe’i hamgylchynir gan ysbrydion ac mae golwg arswydus ar ei wyneb. Cymerwyd yr olygfa hon o’r Aeneid gan y bardd Rhufeinig Fyrsil: 'Mewn arswyd mae Aeneas yn cydio yn ei gleddyf ac yn ei dynnu o'r wain i ymladd ei wrthwynebwyr.' Mae'n dod ato'i hun pan wâl mai drychiolaethau afreal yn unig sy'n ei fygwth. Rubens oedd arlunydd mwyaf llwyddiannus ei gyfnod. Peintiwyd y rhan fwyaf o’i weithiau mawr gyda chymorth arlunwyr cynorthwyol y gweithdy, ond byddai’n cynhyrchu brasluniau llai fel hwn ei hun er mwyn paratoi ar gyfer gweithiau mwy.
sylw - (4)