Casgliadau Celf Arlein

Mynyddoedd yng Ngheredigion

SAEDELEER, Valerius de (1867 - 1941)

Mynyddoedd yng Ngheredigion

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 43.8 x 38.5 cm

Derbyniwyd: 1960; Rhodd; Habel Howell

Rhif Derbynoli: NMW A 2552

Fodd cannoedd o bobl o wlad Belg i Gymru am loches yn ystod y Rhyfel Mawr. Yn eu plith roedd nifer o artistiaid adnabyddus, a gafodd eu gwahodd i’r wlad gan Gwendoline a Margaret Davies. Roedd De Saedeleer a’i deulu’n byw yn Ty’n-lôn, Rhyd-y-felin, i’r de o Aberystwyth. Cafodd ei ysbrydoli gan dirwedd yr ardal, ac fe’i peintiodd gan ddefnyddio’i arddull a’i dechneg arbennig ei hun. De Saedeleer a chafodd beth llwyddiant gyda'r golygfeydd hyn o Geredigion. Cynhaliodd arddangosfeydd gwerthu ym 1916 a 1919 yn Aberystwyth lle bu'n athro yn yr Ysgol Gelfyddyd. Er bod ei fywyd yng Nghymru yn anodd yn ariannol, ysgrifennodd at ffrind ym 1919 gan ddweud 'mae hon yn ardal hyfryd, mae'r bobl yn garedig ac mae'r tyddynwr Cymreig yn fy atgoffa o'r rhai yn Fflandrys'. Ym 1921 aeth ef a'i deulu adref yn ôl.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd