Casgliadau Celf Arlein

Y Frenhines Eleanor [Queen Eleanor]

SANDYS, Frederick (1829 - 1904)

Y Frenhines Eleanor

Dyddiad: 1858

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 40.6 x 30.5 cm

Derbyniwyd: 1981; Prynwyd

Rhif Derbynoli: NMW A 185

Roedd Sandys yn ddisgybl i Rossetti a byddai'n arbenigo mewn hanner-ffigyrau o ferched hardd ond dinistriol yn aml. Mae ei sylw gofalus i fanylion yn nodweddiadol o'r ysgol Gyn-Raffaelaidd. Dywedid bod y frenhines Eleanor o Aquitaine (c.1122-1204), gwraig y Brenin Harri II o Loegr, wedi llofruddio'i feistres, Fair Rosamund a gwelir hi yma gyda chwpan gwenwyn a dagr. Y cortyn yn ei llaw chwith oedd yn dangos y ffordd drwy'r llwyni at ddeildy Rosamund.

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd