Casgliadau Celf Arlein
Syr Edward (bu f. 1535) a'r Foneddiges Elizabeth Stradlinge (bu f. 1513) [Sir Edward (d.1535) and Lady Elizabeth Stradlinge (d. 1513)]
YSGOL BRYDEINIG, 16eg ganrif
Dyddiad: 1590
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 167.8 x 78.0 cm
Derbyniwyd: 1992; Ar fenthyg; Yr Eglwys yng Nghymru
Rhif Derbynoli: NMW A(L) 804
Bwriadwyd i'r paneli hyn grogi uwchben beddrod, fel mynegiant gweledol o linach a rhywbeth a ddynodai cadernid a pharhad y teulu. Nid oes sail i'r traddodiad iddynt gael eu peintio gan beintiwr teulu Bird. Gwelir bod y cyferbyniad rhwng y cynllun, yr arfbais a'r arysgrif gofalus ar y paneli a safon amrwd y peintio yn awgrymu mai gwaith peintiwr heraldaidd ydynt yn hytrach na phortreadwr.
Mae'r panel yn darlunio Edward Stradling (bu farw ym 1535), yr unig un o feibion Thomas a oroesodd, a'i wraig, Elizabeth (bu farw ym 1513) a gellir eu hadnabod oddi wrth yr arysgrif ar y gwaelod. Dangosir yr eisteddwyr a'u plant ymadawedig y tu ôl iddynt ac arfbais y teulu uwchben. Arfbeisiau ei thad, Syr Thomas Arundell o Lanherne yng Nghernyw yw'r rhai o'r eiddo Elizabeth Stradling. Dangosir ei gw^r yn ei arfwisg, o bosib fel cyfeiriad at ei bresenoldeb ym Mrwydr Tournai ym 1513; wedi hyn urddwyd ef yn farchog gan Harri VIII.