Casgliadau Celf Arlein

Siop y Dofednwr

SNYDERS, Frans (1569 - 1657)

Siop y Dofednwr

Cyfrwng: olew ar gynfas

Maint: 188.1 x 152.0 cm

Derbyniwyd: 1998; Dyrannwyd yn lle treth; Llywodraeth E.M.

Rhif Derbynoli: NMW A 12866

Mae’r siopwr oedrannus yn syllu’n ddwys ar y forwyn gegin wrth iddi edrych ar ei gynnyrch a dewis yr hyn y mae arni ei eisiau. Byddai neges erotig gudd i olygfeydd o’r fath yn Antwerp ar y pryd. Mae i’r gair Ffleminaidd am aderyn, vogel, gysylltiadau ffalig, tra bo’r ferf vogelen yn air slang am gyfathrach rywiol. Byddai Snyders yn arbenigo mewn peintio bywyd llonydd, gan ganolbwyntio ar ddehongli adar, llysiau ac anifeiliaid hela. Mae llun pelydr-X o'r darlun yn dangos mai bwriad yr arlunydd oedd tynnu llun bywyd llonydd pur gan roi lle amlwg i garcas iwrch mawr yn hongian. Ond peintiwyd dros hwnnw ac fe ddefnyddiwyd siâp coesau blaen y creadur yn amlinell ar gyfer y seleri ar y chwith ar waelod y llun. Ychwanegwyd lluniau'r forwyn a'r dyn barfog yn olaf, gan beintiwr o weithdy Rubens.

sylw (3)

Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
I've always found this painting absolutely mesmerising
28 Tachwedd 2020, 23:43
Absolutely mesmerising
Amgueddfa Cymru Staff Amgueddfa Cymru
22 Mehefin 2010, 15:18
Dear Susan, thank you for your comment submitted through the website.

I have sent an email to the address you specified and attached a copy of the x-ray you requested.
Many thanks
Graham Davies
susan
22 Mehefin 2010, 15:18
would it be possible to obtain a reproduction of the x-ray photograph showing the roe buck?
I have written a monograph on Snyders (1995; reprint 2006) and was asked by Christie's when the work was to be autctioned my thoughts on the picture. AT that time the x-ray had not been carried out. I am planning a trip to England to view works by Snyders butmy itinerary is not fixed. Unfortuantely I only have about two weeks to carry out my researc. I will be travelling by car, but I may not be able to visit Cardiff on this occasion. I have been there in the past and was so impressed by the museum's holdings; at that time cartoons attributed to Rubens had just entered the collection.
Please advise, and I would be most grateful for any assistance.
Sincerely,
Susan Koslow
Nôl i hafan Casgliadau Celf Ar-lein

Pori artistiaid

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd Arall

Pori gwneuthurwyr a chynllunwyr

Pori yn ôl llythyren:

A B C D E F G H I J K L M N O P Q R S T U V W X Y Z i gyd