Casgliadau Celf Arlein
Oliver Cromwell (1599-1658)
YSGOL BRYDEINIG, 17eg ganrif
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 127.0 x 101.6 cm
Derbyniwyd: 1934; Prynwyd
Rhif Derbynoli: NMW A 539
Sgweier ac Aelod Seneddol o East Anglia oedd Cromwell. Er nad oedd ganddo unrhyw brofiad milwrol, bu ei arweinyddiaeth yn hanfodol i sicrhau buddugoliaeth y Seneddwyr yn y Rhyfel Cartref, a daeth yn ffigur amlwg yn y Werinlywodraeth. O 1653 llywodraethodd fel Arglwydd Amddiffynnydd. Roedd hen daid Cromwell yn dafarnwr o Forgannwg a briododd aelod o deulu gweinidog Harri VIII, Thomas Cromwell.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.