Casgliadau Celf Arlein
Tirlun gyda Gwartheg
TROYON, Constant (1810 - 1865)
Cyfrwng: olew ar banel
Maint: 18.8 x 12.7 cm
Derbyniwyd: 1924; Cymynrodd; T.H. Thomas
Rhif Derbynoli: NMW A 2504
Mae’r llun gwledig hwn o ddyn yn hel gyr o wartheg yng ngholau addfwyn y machlud, yn nodweddiadol o waith diweddarach Troyon. Er mai peintiwr porslen ydoedd I ddechrau, aeth ymlaen i dderbyn hyfforddiant academaidd a chreu peintiadau fwyfwy naturiolaidd wedyn. Roedd lluniau Troyon o anifeiliaid yn hynod boblogaidd ymysg casglwyr. Gellir ei ystyried yn arlunydd cyn-Argraffiadol hyd yn oed, oherwydd ei ffordd o ymdrin â golau.
Nid yw sylwadau ar gael ar hyn o bryd. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.