Casgliadau Celf Arlein
Ger Margate [Off Margate]
TURNER, Joseph Mallord William (1775 - 1851)
Cyfrwng: olew ar gynfas
Maint: 30 x 46.0 cm
Derbyniwyd: 1952; Cymynrodd; Gwendoline Davies
Rhif Derbynoli: NMW A 5094
Casgliad: Casgliad y Chwiorydd Davies
Diystyriwyd y paentiad hwn fel gwaith dilys gan Turner ym 1956 ac eto yn y 1960au. Mae catalog Turner 1977 yn cyfeirio ato fel ‘a deliberate attempt to imitate Turner’s style’. Fodd bynnag, mae archwiliad technegol diweddar yn dangos ei fod yn cynnwys y pigmentau a ddefnyddiodd Turner – glas cobalt, gwyn plwm, gwyn, brown/melyn mars a fermiliwn. Er ei fod yn anorffenedig, mae’n gydnaws ag ymddangosiad paentiadau olew Turner ar raddfa fach.
Cafodd Turner gryn ysbrydoliaeth gan arfordir Caint, ac roedd yn ymwelydd cyson â Margate o’r 1820au ymlaen, diolch i ansawdd arbennig y golau. Dywedodd mai’r awyr uwchben Thanet yw’r hyfrytaf yn Ewrop.
sylw - (1)